DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Datganiad ynghylch cynnydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

DYDDIAD

14 Tachwedd 2022

GAN

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

 

 

Ym mis Gorffennaf, gwnes ddarparu adroddiad cynnydd ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, gan ymrwymo i ddarparu adroddiad pellach yn yr hydref.

 

Mae gwybodaeth am waith y Comisiwn ar gael yn yr adroddiad cynnydd diweddaraf a ddarparwyd gan y Cydgadeiryddion.

 

Cyfarfu’r Prif Weinidog, arweinydd Plaid Cymru a minnau â’r Cydgadeiryddion yn ddiweddar i drafod eu gwaith. Rhoesant wybod eu bod ar y trywydd iawn i ddarparu eu hadroddiad interim erbyn diwedd eleni. Byddaf eto yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau ar ôl i’r adroddiad hwnnw ddod i law.